Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiabetes

Dydd Mawrth 4 Mawrth 2014

Yn bresennol 

Darren Millar AC (Cadeirydd )

Paul Coker (Input Patient Advocacy)

Nicola Davies-Job (RCN)

Rhian Shaw (Sanofi)

John Griffiths (Aelod lleyg)

Penny Griffiths (Abbott Diabetes Care)

Jason Harding (Diabetes UK Cymru)

Dai Williams (Diabetes UK Cymru)

Sara Moran (Diabetes UK Cymru)

Robert Wright (Aelod lleyg)

Ros Meek (Medtronic)

David Chapman (Yn cynrychioli Medtronic)

Alex Still (Swyddfa Jeff Cuthbert AC)

Chris Williams (Novo Nordisk)

Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC)

Mirriam Dupree (Swyddfa Jenny Rathbone AC)

         

 

Ymddiheuriadau

Jenny Rathbone AC

David Melding AC

Bethan Jenkins AC

Simon Thomas AC

Lowri Griffiths (Y Gymdeithas Strôc)

Jonathan Hudson (Astrazeneca)

Dr Lindsay George

Steve Bain (Prifysgol Abertawe)

Pippa Ford (CSP)

Lesley Jordan (Input Patient Advocacy)

Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)

Wendy Gane (Cymorth gan eraill sydd â Diabetes)

Yvonne Johns (Grwpiau Cyfeirio Diabetes Gogledd Cymru)

C Hugh Thomas (Fferylliaeth Gymunedol Cymru)

 

Hoffai’r grŵp trawsbleidiol ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cymorth:

 

 

 


Cyflwyniadau

Croesawodd Darren Millar AC y rhai a oedd yn bresennol i wythfed cyfarfod y grŵp yn y pedwerydd Cynulliad. Cyflwynodd yr aelodau eu hunain a’u sefydliadau. Rhoddodd wybod i’r grŵp fod Jenny Rathbone AC mewn Fforwm Arweinyddiaeth Diabetes Ewropeaidd ac y bydd yn adrodd yn ôl i’r grŵp yn ystod y cyfarfod nesaf.

  1. Cyfarfod Blynyddol - Ethol Swyddogion

Enwebodd y grŵp Jenny Rathbone AC yn Gadeirydd a Helen Cunningham yn Ysgrifennydd ac etholwyd y ddwy. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

  1. Cofnodion a materion yn codi 

Cytunodd y grŵp ar gywirdeb cofnodion y cyfarfod blaenorol.

Grwpiau cyfeirio cleifion - Rhoddodd Robert Wright wybod i’r grŵp na chynhaliwyd cyfarfod o grŵp cyfeirio cleifion Powys ers mis Mehefin. Mae’r Bwrdd Iechyd Lleol bellach wedi llunio ei gynllun cyflawni ond nid yw’n cyfeirio dim at grwpiau cyfeirio cleifion. Gwnaeth Robert sylw nad yw’n credu bod mewnbwn cleifion yn bodoli ym Mhowys.

 

Awgrymodd y Cadeirydd bod llythyr yn cael ei anfon at Fwrdd Iechyd Lleol Powys i ofyn sut y gall cleifion ymgysylltu â’r bwrdd iechyd. Cytunodd y grŵp i hyn

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Powys

 

3.  Cyflwyniad ar bympiau inswlin, Paul Coker

Rhoddodd Paul Coker gyflwyniad i’r grŵp ar fynediad at bympiau inswlin. Amlinellodd Paul y ddwy dechnoleg sy’n cael eu cynnig i gleifion; Mesuryddion glwcos gwaed smart a phympiau inswlin (CSII) Cafwyd trafodaeth i ddilyn. Tynnodd Penny Griffiths sylw at y ffaith fod mesuryddion ar gael i gleifion ond nad ydynt bob amser yn fesuryddion smart. Ychwanegodd fod hwn yn fesurydd penodol ar gyfer math dau penodol o ddiabetes h.y. rhywun nad yw’n cynhyrchu unrhyw inswlin.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â chymarebau staff. Gwnaeth Chris Williams sylw nad oes diben hyfforddi staff os nad yw’r dechnoleg ar gael.

 

Soniodd Dai Williams am yr arferion ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, lle mae cleifion yn gorfod mynd i Lerpwl i gael y gwasanaeth, sy’n ddrutach. Byddai’n rhatach hyfforddi staff a gwneud hynny’n fewnol.

 

Dywedodd Paul Coker fod nifer y Nyrsys Arbenigol Diabetes (DSN) wedi lleihau er bod nifer y cleifion â diabetes wedi cynyddu. Dywedodd Nicola Davies-Job wrth y grŵp pa mor anodd ydyw i nyrsys gael mynediad at hyfforddiant, yn enwedig hyfforddiant ar gyfer arbenigeddau. Ychwanegodd Jason Harding fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru i adolygu Nyrsys Arbenigol Diabetes

 

Cytunodd y grŵp i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i holi ynglŷn â niferoedd y Nyrsys Arbenigol Diabetes, lefel yr hyfforddiant sydd ar gael a faint sy’n manteisio ar yr hyfforddiant hwnnw.

 

Cam i’w gymryd:Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â Nyrsys Arbenigol Diabetes

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r grŵp fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol. Awgrymodd fod y grŵp yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor yn amlinellu’i bryderon ynglŷn â mynediad at fesuryddion smart a phympiau.

 

Cam i’w gymryd:Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd ynglŷn â mynediad at dechnoleg feddygol

 

Ychwanegodd John Griffiths y dylid hefyd ystyried y gost o beidio â gwneud dim. Bu’r grŵp yn trafod y gost gymdeithasol a’r economi iechyd, gan gynnwys y gost i’r economi o ganlyniad i bobl yn y gweithlu sydd â chyflyrau nad ydynt yn cael eu rheoli’n briodol. Rhoddodd Ros Meek hefyd wybod i’r grŵp fod adroddiad gan y Work Foundation ar effaith cyflyrau iechyd a’r defnydd o dechnolegau meddygol ar y gweithlu iechyd.

 

Cam i’w gymryd:Y Pwyllgor Iechyd i ddosbarthu copi o adroddiad y Work Foundation.



4.   Y wybodaeth ddiweddaraf gan is-grwpiau

Rhoddodd Jason Harding drosolwg o ffrydiau gwaith blaenorol a’r ffordd yr oeddent yn gweithredu a rhoddodd gyd-destun i’r rhai newydd. Gan fod nifer o ymddiheuriadau wedi dod i law, gwnaeth y Cadeirydd sylw y dylid rhoi cyfle i aelodau eraill y grŵp, nad oeddent yn y cyfarfod, ymuno ag is-grŵp y mae ganddynt ddiddordeb arbennig ynddo. Cytunwyd y bydd Dai Williams yn arwain ar bympiau inswlin. Bydd Paul Coker a Lesley Jordan hefyd yn aelodau. Cytunwyd y bydd Jenny Rathbone yn arwain ar ofal cleifion mewnol. Bydd Jason Harding yn cynorthwyo. Cytunwyd y dylid pennu ffocws a chylch gorchwyl yr is-grwpiau yng nghyfarfodydd cyntaf yr is-grwpiau

 

Cam i’w gymryd: Aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol i roi gwybod i arweinyddion yr is-grwpiau os oes ganddynt ddiddordeb mewn bod yn aelod o is-grŵp

 

Cam i’w gymryd:Arweinyddion yr is-grwpiau i drefnu’r cyfarfodydd cyntaf

 

 

5.   Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Gweithredu ar Ddiabetes

Rhoddodd Dai Williams wybod i’r grŵp fod Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan wedi cyfarfod ar 19 Rhagfyr. Cytunodd y grŵp i ychwanegu rhai aelodau: gwella cysylltiadau ag awdurdodau lleol; ychwanegu rhywfaint o arbenigedd mewn addysg broffesiynol; ac i gydgysylltu gohebiaeth. Mae gan y grŵp bedair blaenoriaeth; ataliaeth, pediatreg, gwneud y GIG cystal ag y gall fod (sy’n cynnwys data a gofal traed), ac addysg/hunanreoli. Roedd creu rhwydwaith pediatreg ac adolygiad gan gymheiriaid yn gofyn am gefnogaeth Byrddau Iechyd ac mae Adam Cairns bellach wedi sicrhau hyn.

Gwnaeth Dai sylw bod diffyg ymgysylltiad gwirioneddol gan fyrddau iechyd ac nad oes digon o bobl ar lefel uwch ynghlwm â hyn. Mae’r grŵp wedi rhoi mandad i Adam Cairns fod yn bresennol yn y Grwpiau Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes (DPDG) ledled Cymru. Ychwanegodd Dai fod Adam Cairns yn chwa o awyr iach a’i fod yn arwain yn dda.

Gwnaeth Nicola Davies-Job sylw fod ataliaeth yn ymddangos mewn llawer o gynlluniau iechyd, felly dylai cynlluniau iechyd gael eu hintegreiddio’n well. Ychwanegodd y Cadeirydd fod y ffactorau risg yr un fath gyda llawer o gyflyrau.

Dywedodd Dai hefyd wrth y grŵp na chafodd yr arweinydd clinigol fyth ei benodi. Cytunodd y grŵp i ysgrifennu llythyr i ofyn pryd y caiff yr arweinydd ei benodi

Cam i’w gymryd: Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at Adam Cairns i ofyn beth yw’r amserlen ar gyfer penodi’r arweinydd clinigol.



6.   Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Rhoddodd Dai wybod i’r grŵp am dymor BBC Cymru “Live Longer Wales” a  pha mor ddefnyddiol y gallai’r rhaglen fod i bobl â diabetes. Awgrymodd fod y Cyfarwyddwr Rhaglenni’n dod i’r cyfarfod nesaf

 

Cam i’w gymryd: Dai Williams i gysylltu â Chyfarwyddwr Rhaglenni BBC Cymru

 

Nododd y grŵp y rheolau newydd yn ymwneud â gweithredu grwpiau trawsbleidiol a’r papur a ddarparwyd gan Jenny Rathbone AC ynglŷn â mapio Copenhagen.

Dyddiad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yw dydd Mawrth 3 Mehefin yn Ystafell Gynadledda 21